Table Tennis Wales and Disability Sport Wales are working together

Have you thought about what your potential could be in Para Table Tennis?

Table Tennis Wales and Disability Sport Wales are working together to identify and develop the next generation of Welsh Table Tennis stars. We are looking for people who have a physical impairment and are passionate about sport and would like to explore their potential in Table Tennis.

You don’t need to have any experience of playing Table Tennis – you may be playing a different sport and feel that Table Tennis could be an opportunity for you.

Who should apply?

  • Ages 9+
  • People who have a physical disability
  • If you have aspirations to compete at the Paralympics/ Commonwealth Games

What the campaign looks like

We currently have a talent identification event planned for 5th April 2024

The day will be delivered by experienced pathway coaches who will give you the opportunity to try Table Tennis in a fun, supported environment.

But don’t worry if you can’t make that day, you should still apply, and we will be in touch with other opportunities to get involved with and provide support and guidance.

How to apply

Complete the #inspire form and identify you’re interested in the Table Tennis campaign https://www.disabilitysportwales.com/en-gb/performance/inspire-form    – we will then be in touch with the next steps.

Why Table Tennis?

Listen to some of the Welsh Table Tennis players: https://youtu.be/dJIySuaipaI

 

Tom Mathews

“Table tennis is an inclusive sport which gives you the ability to play at any level, it’s like a game of chess – every point is different!”.

Josh Stacey

“From my experience, trying table tennis has given me something to work towards on a day to day basis and something to chase. Table Tennis has allowed me to see places all over the world I never would have been able to. It’s given me the opportunity to do something I love on a day-to-day basis and if anyone is ever interested in trying Table Tennis I’d definitely recommend them give it a go!”

Paul Karabardak

“I think you should try Table Tennis because it’s really fun and challenging. You also get the opportunity to compete and play in lots of different leagues and meet lots of great people. Every game/training session is always different which keeps it fresh and fun so it’s not monotonous and this makes it exciting and interesting”.

 

Ydych chi wedi meddwl beth allai eich potensial fod yn Tenis Bwrdd Para?

Mae Tenis Bwrdd Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydweithio i nodi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o sêr Tenis Bwrdd. Rydym yn chwilio am bobl sydd â nam corfforol ac sy’n angerddol am chwaraeon ac a hoffai archwilio eu potensial mewn Tennis Bwrdd.

Nid oes angen i chi gael unrhyw brofiad o chwarae Tenis Bwrdd – efallai eich bod yn chwarae camp wahanol ac yn teimlo y gallai Tenis Bwrdd fod yn gyfle i chi.

 

Pwy ddylai wneud cais?

– 9+ oed

– Pobl ag anabledd corfforol

– Os ydych yn awyddus i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd/Gemau’r Gymanwlad

 

Beth mae’r ymgyrch yn edrych fel?

Ar hyn o bryd mae gennym ni ddigwyddiad adnabod talent ar y gweill ar gyfer 5ed Ebrill 2024

Bydd y diwrnod yn cael ei gyflwyno gan hyfforddwyr llwybr profiadol a fydd yn rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar Tenis Bwrdd mewn amgylchedd hwyliog, gyda chefnogaeth.

Ond peidiwch â phoeni os na allwch wneud y diwrnod yma, dylech wneud cais, a byddwn mewn cysylltiad â chyfleoedd eraill i gymryd rhan a darparu cymorth ac arweiniad.

 

Sut i wneud cais

Cwblhewch y ffurflen #ysbrydoli a nodwch fod gennych ddiddordeb yn yr ymgyrch Tenis Bwrdd https://www.disabilitysportwales.com/cy-gb/perfformiad/ffurflen-ysbrydoli – yna byddwn mewn cysylltiad â’r camau nesaf.

 

Pam Tenis Bwrdd?

Gwrandewch ar rai o chwaraewyr Tenis Bwrdd Cymru: https://youtu.be/dJIySuaipaI

Tom Mathews

“Mae tenis bwrdd yn gamp gynhwysol sy’n rhoi’r gallu i chi chwarae ar unrhyw lefel, mae fel gêm o wyddbwyll – mae pob pwynt yn wahanol!”.

Josh Stacey

“O fy mhrofiad i, mae chwarae Tenis Bwrdd wedi rhoi rhywbeth i mi weithio tuag ato o ddydd i ddydd a rhywbeth i fynd ar ei ôl. Mae Tenis Bwrdd wedi fy ngalluogi i weld lleoedd ar draws y byd na fyddwn i erioed wedi gallu eu gweld. Mae wedi rhoi’r cyfle i mi wneud rhywbeth rwy’n ei garu o ddydd i ddydd ac os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar Tenis Bwrdd byddwn yn bendant yn argymell iddynt i roi gynnig arni!”

Paul Karabardak

“Rwy’n meddwl y dylech chi roi gynnig ar Tenis Bwrdd oherwydd mae’n hwyl ac yn heriol iawn. Rydych chi hefyd yn cael y cyfle i gystadlu a chwarae mewn llawer o gynghreiriau gwahanol a chwrdd â llawer o bobl wych. Mae pob gêm/sesiwn hyfforddi bob amser yn wahanol sy’n ei gadw’n ffres ac yn hwyl felly nid yw’n undonog ac mae hyn yn ei wneud yn gyffrous ac yn ddiddorol”.